Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod (The Girl Who Was Refused)

歌词
Ar lan hen afon Ddyfrdwy ddofn
Eisteddai glan forwynig
Gan ddistaw sibrwd wrth’i hun
“Gadawyd fi yn unig
Heb gar na chyfaill yn y byd
Na chartref chwaith fynd iddo
Drws ty fy nhad sydd wedi'i gloi
’Rwy’n wrthodedig heno.”
Ti frithyll bach, sy’n chwareu’n llon
Yn nyfroedd glan yr afon
Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd
A noddfa rhag gelynion
Cei fyw a marw dan y dwr.
Heb neb i dy adnabod
O! na chawn innau fel tydi
Gael marw, a dyna ddarfod.
Y boreu trannoeth cafwyd hi
Yn nyfroedd glan yr afon.
A darn o bapur yn ei llaw
Ac arno’r ymadroddion
“Gwnewch immi fedd mewn unig fan
Na chodwch faen na chofnod
I nodi’r fan lle gorwedd llwch
Yr Eneth ga’dd ei Gwrthod.”
专辑信息
1.Y Deryn Pur (The Pure Bird)
2.Ei Di'r 'Deryn Du? (Wilt Thou Go My Blackbird?)
3.Ar Fore Dydd Nadolig (On the Morning of Christmas Day)
4.Mordaith I America (Sea Voyage to America)
5.Dacw 'Nghariad (There Is My Sweetheart)
6.My Donald
7.HM Mhontypridd (In Pontypridd)
8.Yr Eneth Glaf (The Sick Girl)
9.Cariad Cyntaf (First Love)
10.Evening Prayer
11.Y Glomen (The Dove)
12.Hiraeth Am Feirion
13.Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod (The Girl Who Was Refused)
14.Llangollen Market
15.Cyfri'r Geifr (Counting the Goats)