Yr Eneth Glaf (The Sick Girl)

歌词
Y mae’r haf yn hir yn dyfod
Meddai geneth fechan glaf
Pryd mae’r gwanwyn yma i ddarfod
Pryd fy mam y daw yr haf?
Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion
Dyma’r unig gysur a gâf
“Cwyd dy galon eneth dirion
Mi fendi di pan ddaw yr haf.”
Oes rhyw arwydd fod hi’n c’nesu?
Oes briallu hyd y nant?
Ydi’r adar bach yn nythu
Ym mieri gwyllt y pant?
Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion
Dyma’r unig gysur a gâf
“Cwyd dy galon eneth dirion
Mi fendi di pan ddaw yr haf.”
Chlywodd neb y gôg eleni
Ar hen dderwen fawr y ddôl
Ond i honno ddechre canu
Haws it wenu ar ei hôl.
Ond pan aeth y dyddiau heibio
Dyma’r unig gysur a gâf
Ar ei beddrod yn blodeuo
Y gwelir heddiw flodau’r haf.
专辑信息
1.Y Deryn Pur (The Pure Bird)
2.Ei Di'r 'Deryn Du? (Wilt Thou Go My Blackbird?)
3.Ar Fore Dydd Nadolig (On the Morning of Christmas Day)
4.Mordaith I America (Sea Voyage to America)
5.Dacw 'Nghariad (There Is My Sweetheart)
6.My Donald
7.HM Mhontypridd (In Pontypridd)
8.Yr Eneth Glaf (The Sick Girl)
9.Cariad Cyntaf (First Love)
10.Evening Prayer
11.Y Glomen (The Dove)
12.Hiraeth Am Feirion
13.Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod (The Girl Who Was Refused)
14.Llangollen Market
15.Cyfri'r Geifr (Counting the Goats)