歌词
Holl amrantau'r sêr ddywedant
Ar hyd y nos
Dyma'r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos;
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch;
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos
O Mor siriol gwena'r seren
Ar hyd y nos
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos
Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos
O Mor siriol gwena'r seren
Ar hyd y nos
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos
Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos
专辑信息
15.Bao Bei