歌曲 / 歌词

Gloria Tyrd Adre

Listen on Apple Music

歌词

Does dim ond oerni yn dy lygaid di
Lle bu'r fflamau gynt yn llosgi mor gryf,
Ac er na fynni di fyth gredu
Mae dy fyd wedi pylu
Mae cysgod y bedd yn fferru dy wedd
A chwerw yw cywair dy gân,
Fe geisiast ymhell yr eiliadau gwell
Gan rwygo ein byd arwahân.
Wedi'r hedfan rhaid oedd talu'r pris
Ac fe suddaist yn is ac yn is,
Ond Gloria dy ddryswch heno,
Rydw i'n dal i gofio
Ddyddiau di-hid am wynder ein byd
A'r cyfan oedd rhyngom ni,
Y wefr a'r iâs wrth redeg ar ras
At orwel pell ein rhyddid ni.
Dal dy dir, mae'r sgrifen ar y mur,
Paid â herio'r gwir, dyw hynny ond twyllo,
Cydia'n dynn, dal yn y gobaith prin,
Cer am y mannau gwyn,
Gloria Tyrd Adre.
A welaf fory yn dy heddiw di
Neu ddim ond rhith o'r holl bethau a fu,
Ond do bum ddigon ffôl i gredu
Dy fod ti eto am flasu
Y dyddiau di-hid a gwynder ein byd
A'r cyfan oedd rhyngom ni,
Y wefr a'r iâs wrth redeg ar ras
At orwel pell ein rhyddid ni.
Dal dy dir, mae'r sgrifen ar y mur,
Paid â herio'r gwir, dyw hynny ond twyllo,
Cydia'n dynn, dal yn y gobaith prin,
Cer am y mannau gwyn,
Gloria Tyrd Adre.
Dal dy dir, mae'r sgrifen ar y mur,
Paid â herio'r gwir, dyw hynny ond twyllo,
Cydia'n dynn, dal yn y gobaith prin,
Cer am y mannau gwyn,
Gloria Tyrd Adre.
Dal dy dir, mae'r sgrifen ar y mur, paid â herio'r gwir,
Cydia'n dynn, dal yn y gobaith prin, cer am y mannau gwyn.
Dal dy dir, mae'r sgrifen ar y mur,
Paid â herio'r gwir, dyw hynny ond twyllo,
Cydia'n dynn, dal yn y gobaith prin,
Cer am y mannau gwyn,
Gloria Tyrd Adre.