歌词
Fe roddwyd gwlad, fe roddwyd caer a thir i'm gofal, fe roddwyd gwlad;
Mewn gweddi daer, erfyniaf am nerth i'w chynnal, fe roddwyd gwlad;
Boed imi'r grym a'r gallu sy'n
Dragwyddol, wynebu her a chamu i'r dyfodol.
Eryr Pengwern, ein cadernid, Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Muriau'r gaer dan adain heno, Dan dy lygaid, yn dy ddwylo,
Yn dy fynwes fawr diflino, Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd.
Fe roddwyd nos, fe roddwyd haul y dydd i'w ganlyn, fe roddwyd nos;
A thra bydd nerth, fe heriaf eto gaer y gelyn, boed imi'r nerth.
Rhaid i mi fyw, byw er mwyn fy mhobl,
Rhaid i mi fyw, a chamu i'r dyfodol.
Eryr Pengwern, ein cadernid, Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Muriau'r gaer dan adain heno, Dan dy lygaid, yn dy ddwylo,
Yn dy fynwes fawr diflino, Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd.
Fe roddwyd tras, fe roddwyd hil i mi anwylo, fe roddwyd tras;
Fe roddwyd gwaed, y gwaed fydd eto ar fy nwylo, fe roddwyd gwaed.
Heb unrhyw ofn,
Fe hawliaf (ffawd) fy mhobl; Rhaid i mi fyw, a chamu i'r dyfodol.
Eryr Pengwern, ein cadernid, Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Muriau'r gaer dan adain heno, Dan dy lygaid, yn dy ddwylo,
Yn dy fynwes fawr diflino, Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd.