歌词
Mae nhw'n dweud bod awyr
Ar ei dwyalla cyn y wawr (y wawr)
Felly dywedwch wrthai pam
Bod pob cam dwi'n gymryd
Yn fy ngwthio nol i lawr (i lawr)
Ond dal i drio
Gwneud, gwneud, gwneud
Beth mae nhw'n ddweud, ddweud, ddweud
Tan mae'r awr i allu mynd heb droi yn ol
A phan mae'r cyfle'n dod i adael
Ffrindiau ymestyn rownd fy ngwddf
A fy nhynnu'n ol, yn llusgo'n ol
A phan mae golau'r ddinas bell,
Yn dal i addo dyddiau gwell
Mae'n fy nhynnu'n ol, yn llusgo'n ol
Mae'r ffordd i weld ar agor
Wrth agosau mae'r drws ar gau (fydd rhaid)
Jyst dal i geisio
Gwneud, gwneud, gwneud
Fel mae nhw'n ddweud, ddweud, ddweud
Tan ddaw'r awr i allu mynd heb droi yn ol
A phan mae'r cyfle'n dod i adael
Ffrindiau ymestyn rownd fy ngwddf
A fy nhynnu'n ol, yn llusgo'n ol
A phan mae golau'r ddinas bell
Yn dal i addo dyddiau gwell
Mae'n fy nhynnu yn ol, yn llusgo'n ol